Dadl yr awdr yw, mai fel mudiad cymdeithasol y dylid pwyso a mesur y mudiad hwn a ddaliai ei gafael yn y cymunedau Cymraeg ar hyd y cyfnod rhwng 1880 a'r ail ryfel byd, er gwaethaf cynydd y diwylliannau torfol Seisnig, a'r holl newidiadau cymdeithasol eraill a oedd wrthi'n tanseilio Cymreictod. Erbyn iddo ddarfod ym mhum degau'r ugeinfed ganrif - bron mor ddisymwth ag yr oedd wedi geni, drigain mlynedd ynghynt - yr oedd wedi cwblhau tasg holl bwysig i barhad y genedl. Gwasanaethai fel pont i gario'r genedl honno drosodd o hen fyd Calfinaidd Cymru i diroedd bras dyneiddiaeth faterol yr ugeinfed ganrif.
Be the first to review this book!